Gall stigma iechyd meddwl o fewn lleoliadau gofal iechyd gael effaith negyddol ar fynediad person i wasanaethau iechyd meddwl a’u profiad ohonynt, ac felly hefyd yr effaith ar y cymorth maen’t yn ei dderbyn, a all gael effaith andwyol ar geisio cymorth yn y dyfodol. Mae mynd i’r afael â stigma iechyd meddwl mewn lleoliadau gofal iechyd yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o safon a’u diogelu at y dyfodol ac er mwyn sicrhau’r canlyniadau iechyd gorau posibl i bawb.
Nod y modiwl gwrth-stigma yw rhoi dealltwriaeth ddyfnach i staff o'r stigma a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl o fewn y gwasanaeth, gyda'r nod o wella profiadau'r dyfodol mewn modd cadarnhaol a chydweithredol.
Mae'r adroddiadau isod yn cyflwyno canfyddiadau'r gwerthusiad hwn dros y blynyddoedd.
Darllenwch yr adroddiadau isod: