Ymarfer ar gyfer fy Iechyd Meddwl

Mae Natalie yn rhannu ei pherthynas ag ymarfer corff gyda ni a sut mae wedi effeithio ar ei hiechyd corfforol a meddyliol.

10th May 2024, 5.00pm | Ysgrifenwyd gan Natalie

Mae ymarfer corff rheolaidd wedi bod yn rhan o fy ffordd o fyw erioed. Yn ogystal â’i fanteision corfforol, mae’n ddi-os yn cynnal ac yn gwella fy lles meddyliol oherwydd…

Mae ymarfer corff yn cynhyrchu:

  • Endorffinau – mae'r rhain yn rhyngweithio â derbynyddion yr ymennydd i leihau canfyddiad poen a sbarduno teimladau cadarnhaol.
  • Serotonin – yn helpu i reoli hwyliau, bywiogrwydd meddwl, a ffocws.
  • Dopamin a norepinephrine – yn chwarae rhan mewn rheoli hwyliau.

Symud yw fy “mynd i” pan fydd fy iechyd meddwl yn dirywio ac roedd yn rhan werthfawr o fy adferiad yn ystod cyfnod o salwch meddwl.

Sawl blwyddyn yn ôl, fe wnes i brofi blinder llwyr - yn feddyliol ac yn gorfforol, er bod ymarfer corff hefyd wedi cyfrannu at fy gorflino ond wedi fy helpu i wella! Wedi drysu? Gadewch imi egluro…

Roeddwn i bob amser wedi caru sesiynau ‘cardio’ – llawer o ddosbarthiadau egni uchel – fel arfer gyda cherddoriaeth uchel a churiad cyflym. Roeddwn i'n gweld eu bod yn rhoi egni i mi, ac fe wnes i ffynnu ar yr agwedd gymdeithasol o ddosbarthiadau ymarfer corff grŵp. Fodd bynnag, pan ddechreuais i gael wir trafferth gyda fy iechyd meddwl, effeithiwyd ar fy iechyd corfforol hefyd ac yn sydyn, cafodd y dosbarthiadau hyn yr effaith groes! Yn hytrach na'm bywiogi, fe wnaethon nhw fy ngadael yn teimlo'n hollol flinedig a siomedig - pam na allwn i fwynhau rhywbeth roeddwn i'n ei garu'n fawr mwyach?

Rwyf wedi dysgu ers hynny y gall dosbarthiadau HIIT (Hyfforddiant Ysbeidiol Dwysedd Uchel) gynyddu lefelau adrenalin a cortisol. Ychydig a wyddwn, pan oeddwn yn bryderus iawn, fod y cemegau hyn eisoes ar lefelau uchel yn fy nghorff ac nid oedd ceisio ‘ymarfer corff i gael gwared a’r straen’ ond yn eu gwthio’n uwch, ac yn arwain at losgi allan. 

Ar ôl wythnosau o fod yn gaeth i’r tŷ fwy neu lai, dechreuais geisio cael ychydig o awyr iach a dechrau cerdded. Fe wnes i ddarganfod bod y symudiad (yn aml gyda ffrindiau), wedi dechrau fy helpu i deimlo'n well. Wrth i’r blinder ddechrau lleihau, roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n ceisio nofio ychydig yn ysgafn. Teimlais yn gyflym iawn y manteision a ddaeth i fy iechyd meddwl wrth nofio. Roedd yn weithgaredd ystyriol - yn canolbwyntio arfy anadlu a chyfrif y strôc - fe ataliodd fy meddwl rasio a lleihau fy mhryder.

Wrth i mi dyfu'n gryfach a dechrau gwella, ceisiais yoga. Roeddwn i wedi clywed ei fod yn dda i iechyd meddwl a hefyd yn meddwl y gallai dysgu rhywbeth newydd fod yn dda i mi. Am ddatguddiad! Fe agorodd fy meddwl i fyd hollol newydd o ddarganfod anadl a myfyrdod a gwella fy nghryfder, symudedd a hyblygrwydd yn gorfforol. Rwyf nawr yn addysgu yoga cadair i gyflwyno eraill (yn enwedig pobl hŷn) i'r buddion hyn.

Y dyddiau hyn, tra fy mod yn ffit ac yn iach, rwy'n dewis pa ymarfer corff i'w wneud yn dibynnu ar sut rwy'n teimlo a beth sydd ei angen arnaf. Pan fyddaf yn teimlo ychydig o straen, rhwystredig neu ddig, rwy'n cymryd rhan mewn ymarfer egnïol fel bocsio neu ddawnsio i 'losgi' yr emosiynau negyddol hynny. Fodd bynnag, rwy’n ofalus iawn i beidio â gorwneud pethau, neu wneud y math hwn o ymarfer corff yn unig.

Os ydw i'n teimlo ychydig yn flinedig neu'n isel mewn hwyliau, neu hyd yn oed yn bryderus, mae rhywbeth mwy hamddenol fel yoga, mynd am dro yn yr awyr iach neu nofio'n hamddenol, fel arfer yn lleddfu'r meddyliau a'r teimladau negyddol hyn yn gyflym. Yn ystod fy nyddiau gwaith, rwy’n cymryd ychydig funudau yn ystod y dydd i ymestyn wrth fy nesg neu symud o gwmpas, e.e. mynd am dro cyflym i’r gegin neu o amgylch y bloc yn ystod fy egwyl cinio. Mae'n rhoi'r seibiant meddwl sydd ei angen arnaf, ac yna'n gweld fy mod yn llawer mwy cynhyrchiol trwy gydol y dydd. 

sporlab-XiZ7pRvCzro-unsplash.jpg

Efallai hoffech

Sut i Wella Eich Iechyd Meddwl

Mae Yahea yn rhannu ei awgrymiadau personol ar sut i wella eich iechyd meddwl.

29th August 2024, 11.00am | Ysgrifenwyd gan Yahea

Darganfyddwch fwy

Mae Byw gyda Pharlys Ymenyddol a Nam ar y Lleferydd yn cael ei heriau

Mae ein Hyrwyddwr Gavin, sy'n byw gyda pharlys ymenyddol, yn rhannu ei brofiadau gyda'r stigma y mae wedi'i wynebu wrth fyw gyda'r cyflwr a'i effaith ar ei iechyd meddwl.

23rd May 2024, 1.30pm | Ysgrifenwyd gan Gavin

Darganfyddwch fwy