“Dyw iechyd meddwl ddim yn gwahaniaethu, felly pam ddylen ni?”

"Mae stigma gan y genhedlaeth hŷn ac agwedd i ‘fwrw ymlaen â phethau’ – efallai fod hyn wedi oedi'r amser cyn i mi geisio help."

9th June 2022, 3.57pm | Ysgrifenwyd gan Anonymous

Roeddwn i'n mynd drwy gyfnod llethol yn ymdopi â thri pheth; gweithio'n llawn amser, astudio i gwblhau fy ngradd meistr a bod yn dad am y tro cyntaf. Doedd y dull roeddwn i'n arfer ei ddefnyddio i ymdopi ddim yn gweithio mwyach, yn enwedig gan fod teitl newydd gen i: Dad. Roeddwn i'n arfer troi at yfed i ddianc, neu byddwn i'n dewis cloi fy hun i mewn. Fodd bynnag, y tro hwn penderfynais i geisio help drwy fy meddyg teulu lleol.

Roedd fy meddyg teulu yn llawer o help. O fewn dyddiau, cefais i fy ngweld a chafodd meddyginiaeth ei rhagnodi i mi ar gyfer fy ngorbryder a fy iselder, gan leddfu llawer o'r hyn roeddwn i'n ei deimlo. Mae'n bwysig nodi na newidiodd unrhyw beth allanol – roeddwn i'n dal i astudio a gweithio, ac roeddwn i'n dad o hyd – ond yn fewnol, roeddwn i'n gallu ymdopi'n llawer gwell heb deimlo fy mod yn cael fy llethu. 

'Yn fewnol, roeddwn i'n gallu ymdopi'n llawer gwell'

Astudiais i Seicoleg yn y brifysgol am 3 blynedd am fy mod i am ddeall yn well beth roeddwn i wedi ei brofi pan oeddwn i'n iau. Rwyf bellach yn Rheolwr Gwasanaeth yn goruchwylio gofal cleifion sydd wedi cael eu hatgyfeirio a'u gweld. Dyw iechyd meddwl ddim yn sgwrs rwy'n gyfarwydd â hi, er bod fy mrodyr a chwiorydd, fy nghefnderoedd a mi yn siarad amdano. Fodd bynnag, mae bwlch cenhedlaeth oherwydd dyw hi ddim yn sgwrs y galla i ei chael â fy rhieni, oherwydd y diffyg ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. Mae stigma gan y genhedlaeth hŷn ac agwedd i ‘fwrw ymlaen â phethau’ – efallai fod hyn wedi oedi'r amser cyn i mi geisio help.

Mae pobl wahanol yn cael budd o bethau gwahanol. I mi, roedd gweld meddyg teulu yn brofiad gwerthfawr iawn. Gwrandawodd arna i, gan ddilyn gyda chwestiynau yn ymwneud â fy ngradd ar ôl yr apwyntiad cychwynnol. Fel rhywun sydd â gorbryder cymdeithasol, mae gallu cael apwyntiadau rhithwir fel opsiwn yn help mawr heb orfod poeni am gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith. Heddiw, mae'n bosibl gwneud hyn i gyd mewn ffordd gynnil; gan osgoi'r angen i feddwl am yr holl gamau cyn mynd i apwyntiad wyneb yn wyneb.

'Cydbwysedd a strwythur yn allweddol'

Roedd cael cyflogwr cefnogol yn helpu hefyd – roeddwn i'n lwcus iawn. Yn ystod sesiynau goruchwylio, byddai fy nghyflogwr yn sicrhau fy mod yn iawn mewn ffordd gyfannol a oedd yn werthfawr oherwydd gall rhai sesiynau goruchwylio deimlo fel mai dim ond perfformiad a thicio blwch sy'n bwysig. Gall cyflogwyr naill ai eich cefnogi chi neu gallant waethygu eich sefyllfa yn y bôn. Mae'n bwysig, er enghraifft, nad yw cyflogwyr dim ond yn canolbwyntio ar eich targedau yn ystod sesiynau goruchwylio, ond eu bod yn hytrach yn treulio amser yn gofyn i chi sut ydych chi a sut y gallant eich cefnogi chi.

I mi, mae cael cydbwysedd a strwythur yn allweddol. Mae gwneud pethau fel mynd am dro, gwneud ymarfer corff a gwneud llawer o waith celf yn fy helpu i beidio â chloi popeth i mewn. Mae hefyd yn bwysig siarad â'r bobl berthnasol a fydd yn gallu eich helpu chi. Dyw iechyd meddwl ddim yn gwahaniaethu, felly pam ddylen ni? Fy nghyngor i yw derbyn nad yw dim yn barhaol – fydd yr hyn rydych chi'n ei deimlo ddim yn para am byth.

Efallai hoffech

Cryfder mewn Camu: Sut Helpodd Rhedeg Fi i Ymdopi ag Iselder Seicotig

Mae Peggy yn siarad am ei thaith gydag iselder seicotig a sut y daeth hyfforddiant ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd yn ffynhonnell gwella annisgwyl.

31st October 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Peggy

Darganfyddwch fwy

Sut i Wella Eich Iechyd Meddwl

Mae Yahea yn rhannu ei awgrymiadau personol ar sut i wella eich iechyd meddwl.

29th August 2024, 11.00am | Ysgrifenwyd gan Yahea

Darganfyddwch fwy