Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Gwnes i wahanu oddi wrth fy nyweddi a fy mhartner ers 11 mlynedd yn ddiweddar. Gwnaeth hyn arwain at gyfnod anodd iawn. Gwnes i gyfaddef rhywbeth i bobl nad oeddwn i wedi bod yn ddigon dewr i'w ddweud o'r blaen – bod angen help arna i. 

Rwyf wedi treulio fy mywyd cyfan yn teimlo cywilydd bod gen i orbryder ac iselder ofnadwy. Byddwn i'n mygu unrhyw beth a fyddai'n sbardun i mi yn ystod yr wythnos waith ac yn ei ddal i mewn nes i mi adael iddo dywallt drosodd ar y penwythnos pan fyddwn i'n mentro i'r dafarn i yfed chwech neu saith peint, cyn troi at y gwin, ac ati.

Wnes i byth siarad â fy mhartner gan nad oeddwn i am fod yn faich. Doeddwn i ddim am ychwanegu straen i'w bywyd gyda fy nhrafferthion a dangos gwendid. Wnes i byth ddweud wrthi am fy mhroblemau, pa mor anodd oedd pethau, ac mai'r unig beth roedd ei angen arna i oedd help a chlywed bod popeth yn iawn. Yn anffodus, roedd hyn ar draul y berthynas a'r bywyd roedden ni wedi'u greu dros un ar ddeg mlynedd. Ond wrth i mi gymryd cam yn ôl, galla i ddweud bod y profiad wedi fy ngwthio i sylweddoli ei bod hi'n iawn peidio â bod yn iawn. Mae'n iawn gofyn am help. 

Ers i'r berthynas chwalu, rwyf wedi gofyn am help yn y ffyrdd canlynol: 

  • Mynd at y meddyg a siarad am fy mhroblemau.
  • Dechrau cael therapi – mae gallu siarad am drawma fy mhlentyndod a fy mhroblemau yn fy mherthynas bresennol wedi bod yn werthfawr iawn.
  • Bod yn agored gyda fy ffrindiau a fy nheulu. 

Rwy'n sylweddoli nawr ei bod hi'n berffaith iawn ei chael hi'n anodd ymdopi, a chael diwrnodau gwael. Mae'n rhyddhad mawr gwybod nad ydw i ar fy mhen fy hun, a gallu siarad am fy mhoen. Mae gallu siarad am fy mhroblemau wedi achub fy mywyd yn llwyr. Rwyf wedi defnyddio llinellau cymorth y Samariaid ar adegau tywyll iawn. Rwyf wedi dweud wrth ffrindiau, teulu ac unrhyw un sy'n barod i wrando fy mod i'n ei chael hi'n anodd ymdopi, ond mae hynny'n iawn! Mae'n iawn ei chael hi'n anodd ymdopi; mae'n iawn peidio â bod yn iawn drwy'r amser. Roeddwn i'n byw o fewn y stigma na ddylai dynion ddangos gwendid drwy siarad am eu hiechyd meddwl a'u heriau, ac y dylai dynion ‘man up’. Y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw siarad â ffrindiau, teulu neu unrhyw un – bydd yn achub eich bywyd.

Samuel.jpg

Efallai hoffech

Cryfder mewn Camu: Sut Helpodd Rhedeg Fi i Ymdopi ag Iselder Seicotig

Mae Peggy yn siarad am ei thaith gydag iselder seicotig a sut y daeth hyfforddiant ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd yn ffynhonnell gwella annisgwyl.

31st October 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Peggy

Darganfyddwch fwy

Sut i Wella Eich Iechyd Meddwl

Mae Yahea yn rhannu ei awgrymiadau personol ar sut i wella eich iechyd meddwl.

29th August 2024, 11.00am | Ysgrifenwyd gan Yahea

Darganfyddwch fwy