Mae salwch meddwl yn dal yn bwnc tabŵ ac nid oes rheolau pendant ar gyfer siarad amdano. Ni ddylech fyth deimlo o dan bwysau i siarad am broblemau iechyd meddwl, ond mae gwneud hynny yn llesol i lawer o bobl. A hon hefyd yw'r ffordd orau o helpu i roi terfyn ar stigma. Gofynnwch i Eiriolwyr Amser i Newid Cymru!
Os ydych yn teimlo'n barod i siarad am eich problem iechyd meddwl, dyma rai argymhellion i roi help i chi...
Byddwch yn barod
Meddyliwch am yr ymatebion gwahanol, cadarnhaol a negyddol, a allai fod gan y person fel eich bod yn barod.
Dewiswch amser da
Dewiswch amser a lleoliad lle rydych yn teimlo'n gyfforddus ac yn barod i siarad.
Byddwch yn barod am lawer o gwestiynau...neu ddim cwestiynau o gwbl: Efallai y bydd gan y person rydych yn siarad â nhw lawer o gwestiynau. Neu efallai y byddant yn teimlo'n anghyfforddus ac yn ceisio newid y sgwrs - os bydd hyn yn digwydd, mae'n ddefnyddiol o hyd eich bod wedi cymryd y cam cyntaf.
Sicrhewch fod rhywfaint o wybodaeth gennych wrth law
Weithiau mae'n haws i bobl gael gwybod mwy yn eu hamser eu hunain - felly gall fod yn ddefnyddiol i gael rhywfaint o wybodaeth wrth law.
Manteisiwch ar gyfleoedd i siarad
Os yw rhywun yn holi am eich iechyd meddwl, peidiwch ag osgoi'r mater, byddwch yn chi eich hun ac atebwch yn onest.
Mae dewrder yn heintus
Yn aml, mae pobl yn awyddus i siarad unwaith y dechreuir sôn am iechyd meddwl. Peidiwch â synnu os yw eich gonestrwydd yn annog pobl eraill i siarad am eu profiadau eu hunain.
"Mae siarad am fy iselder, gorbryder a phopeth sy'n dod gyda hynny wedi fy helpu mewn sawl ffordd. Pan gefais y diagnosis gyntaf, doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w wneud nag wrth bwy y dylwn ddweud ac, yn bwysicach fyth, beth i ddweud wrthynt. I mi, roeddwn yn teimlo fel petaswn yn 'dod allan' ac yn cyfaddef bod gen i broblem iechyd meddwl." Mark, Eiriolwr Amser i Newid Cymru