Gwnaethom ganolbwyntio ar ddwy brif neges: ‘Mae sawl myth yn gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mynnwch y ffeithiau.’ a ‘Gall ychydig eiriau wneud gwahaniaeth mawr. Peidiwch bod ag ofn siarad am iechyd meddw.’
Roeddem am wella gwybodaeth am iechyd meddwl, gan roi sylw i'r ffaith ei fod yn effeithio ar un o bob pedwar ohonom, sy'n golygu rhywun rydych chi'n adnabod neu'n ei garu. Am ei fod yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob un ohonom, roeddem am helpu pobl i deimlo'n gyfforddus yn siarad am iechyd meddwl drwy roi awgrymiadau ar sut i ddechrau sgwrs. Gall ofyn rhywbeth mor syml â 'Sut wyt ti?' wneud gwahaniaeth mawr i rywun.
Gwnaethom ein hysbyseb gyntaf ar y teledu, ‘Beth am Dylan’ a chyrhaeddodd ein negeseuon bob cwr o Gymru ar hysbysfyrddau mawr, posteri, y teledu, radio, gorsafoedd bysiau, y tu mewn i fysiau, cyfryngau cymdeithasol a straeon yn y wasg.
Yn Achos Dylan
Ydych chi wedi gweld ein hysbyseb teledu, In Case of Dylan?
Cymeriad yw Dylan sy'n dychwelyd i'r gwaith yn dilyn amser i ffwrdd oherwydd problemau iechyd meddwl. Mae ei gydweithwyr yn nerfus ynghylch siarad gydag ef am hyn - yn wir maent yn neidio drwy focsys, yn poeri te ac yn canu clychau larwm, dim ond er mwyn osgoi'r sgwrs!
Mae un o'i gydweithwyr ychydig yn fwy synhwyrol ac yn cychwyn sgwrs gyda'r cwestiwn symlaf yn y byd:
“Sut wyt ti'n teimlo?”
Peidiwch â bod ag ofn siarad am iechyd meddwl.