Fel ein cyrff, gall ein meddyliau fynd yn sâl. Mae dechrau sgwrs am iechyd meddwl yn bwysig am ei bod yn helpu pobl i wella. Gall hefyd atgyfnerthu cydberthnasau rhwng ffrindiau, teulu a chydweithwyr. Ac mae'n dechrau chwalu'r tabŵ sy'n gysylltiedig â rhywbeth sy'n effeithio arnom i gyd.
Pe bai eich ffrind wedi torri ei goes, neu pe bai newydd ddod allan o'r ysbyty ar ôl llawdriniaeth, ni fyddech, fwy na thebyg, yn meddwl ddwywaith am ofyn sut oedd ef. Weithiau dyna'r cwbl sydd angen ei wneud - holi sut mae rhywun.
Gwyddom y gall fod yn anodd gwybod sut i ddechrau eich sgwrs ar iechyd meddwl, felly rydym wedi rhoi llawer o awgrymiadau i'ch helpu. Gallwch hefyd wylio ein ffilmiau am bobl sy'n trafod sut yr aethant ati i ddechrau siarad am iechyd meddwl a pha mor bwysig y mae wedi bod. Neu gallwch argraffu ein cerdyn awgrymiadau a'i gadw wrth law yn eich pwrs neu waled.
Gallwch ein helpu drwy lofnodi ein haddewid ar-lein ar roi diwedd ar y stigma (#EndStigma) a gwahodd eich ffrindiau. Neu gallwch godi ymwybyddiaeth drwy lawrlwytho ein deunyddiau a'u rhannu.
Sut i helpu rhywun â phroblemau iechyd meddwl
Os ydych yn adnabod rhywun sy'n wynebu problemau iechyd meddwl neu sydd angen cymorth brys arno, mae llawer o wasanaethau y gallwch fynd atynt am help.
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
- Diagnosis o iechyd meddwl
- Pethau pob dydd y gallwch eu gwneud i helpu rhywun â phroblem iechyd meddwl
- Sut mae stigma a gwahaniaethu yn gallu effeithio ar bobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl fel iselder, anhwylder deubegynol, OCD, pryder, anhwylderau personoliaeth neu sgitsoffrenia.