Mae’r Diwrnod Amser i Siarad nesaf yn cael ei gynnal ddydd Iau 6 Chwefror 2025. Yng Nghymru, mae Diwrnod Amser i Siarad yn cael ei redeg gan Amser i Newid Cymru, Adferiad a Mind Cymru, ac mewn partneriaeth â’r Co-op.
Ariennir rhaglen Amser i Newid Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Diwrnod Amser i Siarad yw sgwrs iechyd meddwl fwyaf y genedl. Y Diwrnod Amser i Siarad hwn, rydyn ni’n gofyn i bobl ddod yn gyfforddus yn siarad am iechyd meddwl. Tecstiwch ffrind, siaradwch â chydweithiwr dros baned, ewch am dro gyda annwylyd, rhannwch rywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio ein hashnod #AmserISiarad – does dim ffordd gywir nac anghywir i gysylltu â rhywun ar Ddiwrnod Amser i Siarad.
Dechreuwch Siarad Am Iechyd Meddwl
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi ddechrau sgwrs. Gallech chi gael sgwrs ochr yn ochr â gweithgaredd, rhannu paned gyda rhywun annwyl neu hyd yn oed anfon neges destun at ffrind i weld sut maen nhw. Er nad oes ffordd gywir neu anghywir o siarad am iechyd meddwl, gall ein hawgrymiadau siarad eich helpu i gael y sgyrsiau holl bwysig hynny.
Cefnogi Rhywun Arall
Os bydd rhywun yn siarad yn agored am eu hiechyd meddwl i chi, efallai y byddant ynanghyfforddus dechrau'r sgwrs honno. Ond does dim rhaid iddo fod – gall bod yno i rywun wneud gwahaniaeth mawr. Os bydd rhywun yn ymddiried ynoch chi, mae nifer o bethau y gallech chi eu gwneud:
- Gofyn cwestiynau a gwrando. Gall gofyn cwestiynau roi lle i’r person fynegi sut maen’t yn teimlo a beth maen’t yn mynd drwyddo. Ceisiwch ofyn cwestiynau sy’n agored a heb fod yn feirniadol, fel ‘sut mae hynny’n effeithio arnoch chi?’ neu ‘sut mae’n teimlo?’
- Peidiwch â cheisio ei drwsio. Ceisiwch wrthsefyll yr ysfa i gynnig atebion cyflym i'r hyn maen nhw'n mynd drwyddo. Gall siarad yn unig fod yn bwerus iawn, felly oni bai eu bod wedi gofyn am gyngor yn uniongyrchol, efallai y byddai'n well gwrando.
- Byddwch yn amyneddgar. Waeth pa mor galed rydych chi'n ceisio, efallai na fydd rhai pobl yn barod i siarad am yr hyn maen nhw'n mynd drwyddo. Mae hynny’n iawn – efallai y bydd y ffaith eich bod wedi ceisio siarad â nhw am y peth yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw agor amser arall.
Rhannu Eich Teimladau Eich Hun
Gall fod yn anodd bod yn agored a rhannu eich teimladau. Pryd bynnag y byddwch chi'n teimlo'n barod, efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu i fod yn gyfforddus i ddechrau'r sgwrs honno:
- Dewch o hyd i ffordd sy'n teimlo'n iawn i chi. Gallai hyn fod yn sgwrs wyneb yn wyneb, neu efallai y bydd yn haws i chi siarad ar y ffôn neu hyd yn oed ysgrifennu sut rydych chi'n teimlo.
- Dod o hyd i amser a lle addas. Weithiau mae’n haws siarad ochr yn ochr, yn hytrach nag wyneb yn wyneb. Efallai yr hoffech chi sgwrsio tra'ch bod chi'n gwneud rhywbeth arall, fel cerdded neu goginio. Fodd bynnag, peidiwch â gadael i'r chwilio am y lle perffaith eich rhwystro.
- Byddwch yn onest ac yn agored. Weithiau gall deimlo’n anghyfforddus rhannu rhywbeth mor bersonol, ond gallai esbonio sut mae eich teimladau’n effeithio ar eich bywyd helpu eraill i ddeall.
Os ydych am gyflwyno blog ar gyfer Diwrnod Amser i Siarad, os gwelwch yn dda cliciwch yma. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen ein canllawiau blogio cyn i chi ddechrau ysgrifennu.
Cliciwch yma i gael mynediad at ein hadnoddau Diwrnod Amser i Siarad!