Byddwch y genhedlaeth sy'n gwneud gwahaniaeth
Mae #GallwnAGwnawn yn ymgyrch iechyd meddwl i bobl ifanc sy’n geisio newid agweddau at iechyd meddwl.
Fel cenhedlaeth y dyfodol, mae gan bobl ifanc rym i newid agweddau a rhoi diwedd ar wahaniaethu yn erbyn pobl sy'n cael trafferth â'u hiechyd meddwl.
Mae problemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin na'r hyn mae pobl yn eu sylweddoli. Bydd problemau iechyd meddwl yn effeithio ar un ym mhob 10 person ifanc - sef tri pherson mewn dosbarth cyffredin. Mae'r effeithiau mor real â thorri braich, er nad oes sling na phlaster i'w dangos.
Mae'r cywilydd a'r cyfrinachedd ynghylch iechyd meddwl nid yn unig yn ei gwneud hi'n anoddach siarad amdano ond gall ein harwain ni i allgau eraill, gwneud rhagdybiaethau a thrin pobl mewn ffyrdd negyddol. Ar y llaw arall, gall siarad amdano'n agored ddileu'r tabŵ o rywbeth sy'n effeithio arnom ni i gyd.
Fel cenhedlaeth y dyfodol, mae gan bobl ifanc rym i newid agweddau a rhoi diwedd ar wahaniaethu yn erbyn pobl sy'n cael trafferth â'u hiechyd meddwl.
Cawsom arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Fawr i gynnal cynllun peilot tair blynedd (Medi 2016 i Awst 2019 yn gynwysedig) ar gyfer rhaglen sy'n canolbwyntio ar atal stigma a gwahaniaethu, a arweinir gan, ac ar gyfer pobl ifanc. Buom yn gweithio gyda 14 o ysgolion ledled Cymru yn ystod y cyfnod hwn i newid ymddygiad ac agweddau yn ymwneud â phroblemau iechyd meddwl. Gellir gweld canlyniadau'r rhaglen beilot yma: Amser i Newid Cymru-Adroddiad Gwerthuso Rhaglen Pobl Ifanc.