Mae Siarad Yn Holl Bwysig
Gall dynion ffeindio siarad am iechyd meddwl yn arbennig o annodd, ond mae siarad yn holl bwysig. Mae'n amser i ni ofyn y cwestiwn o ran iechyd meddwl dynion.
Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar un o bob pedwar o bobly ar unrhyw amser. gall dynion ffeindio siarad am iechyd meddwl yn arbennig o anodd, ond mae siarad yn holl bwysig.
Dim ond 29% o ddynion sydd yn adnabod rhywun gyda problem iechyd Meddwl. Mae’n bryd i ni ofyn y cwestiwn ar iechyd Meddwl dynion: Wyt ti’n iawn?
Mae ymgyrch #MaeSiaradynHollbwysig yn pwysleisio'r ffaith mai trafod iechyd meddwl yw un o'r pethau mwyaf dewr y gall dyn ei wneud.
Mae Amser i Newid Cymru yn ail-lansio'r ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig gyda fideos newydd pwerus o dri dyn: Rhodri, Darren a Brian sy'n siarad yn agored am eu problemau iechyd meddwl, i gyd-fynd â mis ymwybyddiaeth iechyd dynion fis Tachwedd hwn.
Mae gwrywdod niweidiol (toxic masculinity) yn broblem fawr sy'n ei gwneud hi'n anodd i ddynion drafod problem iechyd meddwl yn agored: Caiff ymadroddion fel 'bod yn gryf', 'peidio â dangos teimladau' ac 'nid yw dynion yn crio' eu defnyddio mewn ffordd negyddol i feirniadu dynion sy'n cydnabod bod ganddynt iechyd meddwl gwael.
- Dim ond 55% o'r dynion a ddywedodd eu bod yn teimlo'n isel wnaeth drafod hyn â rhywun. (CALM, Archwiliad Gwrywdod, 2016)
- Mae 1 o bob 4 person yn cael problem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn. (Swyddfa Ystadegau Gwladol, Afiachusrwydd Seiciatrig, 2007)
- Mae 1 o bob 6 pherson yn honni eu bod yn cael o leiaf un broblem iechyd meddwl (megis gorbryder neu iselder) bob wythnos. (Arolwg Afiachusrwydd Seiciatrig Oedolion, 2014)
Yn poeni am ffrind neu aelod o'r teulu?
Dechreuwch sgwrs, gofynnwch y cwestiwn, "wyt ti'n iawn?" a byddwch yn barod i wrando. Weithiau, siarad yw'r moddion gorau. Ond yn yr un modd â salwch corfforol, efallai bydd angen ymweliad â'r doctor i wella pethau.
Rhannwch eich stori
Ymunwch a’r sgwrs gan ddefnyddio #MaeSiaradYnHollBwysig neu ysgrifennwch atom yn info@timetochangewales.org.uk.
Adnoddau
Mae Peter, 66, o Gaerdydd yn egluro sut y gwnaeth drafod ei iselder yn agored: "Roedd y salwch yn gwneud i mi deimlo'n drist ac yn ofnus o hyd, a hyd yn oed mewn poen. Es i at fy meddyg teulu a chefais ddiagnosis ffurfiol o iselder. Dim ond ar ôl trafod hyn yn agored â fy ngwraig, sef y peth anoddaf i gyd, y dechreuais deimlo fy mod yn gallu dringo allan o'r twll tywyll hwn gyda'r cymorth a'r arweiniad cywir."
Mae gan Stuart, 59, o Gaerdydd orbyrder ac iselder a dywedodd: "Ceisiais ganolbwyntio ar fy mhlant a gweithio ar yr un pryd ond roeddwn yn ei gweld hi'n anodd iawn delio gyda phopeth. Es i at fy meddyg teulu yn y pen draw a gwnaeth gynnig sesiynau cwnsela i mi. Roedd fy nghwnselydd yn gwrando arnaf ac yn dweud wrtha i fod fy nheimladau yn normal, o gofio'r hyn roeddwn i wedi bod drwyddo. Yna dechreuais sylweddoli ei bod yn IAWN i beidio â bod yn IAWN. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud iechyd meddwl yn bwnc cyffredin i'w drafod ac annog dynion i geisio cymorth os bydd ei angen arnyn nhw."
Mae Lee, 40, o Bont-y-pŵl yn egluro ei fod wedi brwydro yn erbyn iechyd meddwl gwael ers ei arddegau ac yn trafod y cymorth cywir a gafodd gan ei deulu a'i ymarferwyr iechyd meddwl: "Roeddwn yn arfer yfed llawer i guddio fy mhroblemau iechyd meddwl. Ar ôl graddio o'r brifysgol, roeddwn yn teimlo o dan lawer o bwysau yn y gwaith a gartref. Chwaraeodd fy mam yng nghyfraith ran enfawr yn fy nhaith i wella fy iechyd meddwl. Gwnaeth sylwi ar y ffaith nad oeddwn eisiau gadael y tŷ, aeth hi a fy ngwraig ati i fy helpu i adael y tŷ yn fwy aml."
Cafodd Brian, 62, o'r Barri ddiagnosis o iselder rai blynyddoedd yn ôl. Teimlai Brian fod dod o gefndir ethnig cymysg a thyfu i fyny mewn cymuned amlddiwylliannol yn ei gwneud yn anodd iddo agor i fyny am ei iechyd meddwl, oherwydd y stigma sy'n gysylltiedig ag ef. "Nid tan i mi gymryd cyfrifoldeb llawn am fy iechyd meddwl fy hun y dechreuais i sylwi ar newid fy hun. Dechreuais ddatblygu agwedd gadarnhaol ar fywyd a dod o hyd i gysur o gael fy hun yn ôl mewn siâp, drwy fynd i'r gampfa'n rheolaidd a chwblhau cerdded egnïol i fyny Pen y Fan. Fy dihangfa oedd hi."
Roedd Rhodri, 37, o Gaerdydd yn arfer chwarae i glwb pêl droed Manchester United. Yr oedd ar frîg ei yrfa pan gafodd ei effeithio gan broblemau pen-glin sylweddol drwy gydol ei amser yno, a gyfrannodd iddo beidio â llwyddo yn y clwb. "Doeddwn i ddim yn gallu wynebu mynd adref a gweld ffrindiau a theulu a oedd yn disgwyl i mi wneud yn dda drwy chwarae i dîm o'r radd flaenaf fel Manchester United. Roeddwn i'n teimlo fel fy mod i wedi siomi pawb. Siarad am fy iechyd meddwl gwael oedd y cam cyntaf i fy adferiad, ac rwy'n brawf byw y gallwch chi yn bendant wneud y gorau o'r hyn y mae bywyd yn ei daflu atoch."
Mae Darren, 37, o Sir y Fflint yn cerdded ar hyd Afon Dyfrdwy yn ei fideo ac yn sôn am y ffordd yr effeithiodd straen yn y gweithle ar ei iechyd meddwl. "Cysylltais â'm rheolwr i ddweud wrthi fy mod yn cael trafferth ac nad oeddwn yn siŵr beth i'w wneud. Ac yn annisgwyl y torrais i lawr mewn ddagrau. Roedd fy rheolwr yn poeni ac yn fy nghynghori i ymweld â'm meddyg teulu gan fod hyn yn gwbl allan o’m cymeriad. Ymwelais â'm meddyg, a roddodd ddiagnosis imi o iselder a phryder. Fe'm llofnodwyd o'r gwaith ac fe es i yn fwy a mwy mewnblyg ac yn ynysig. Fodd bynnag, dyna oedd ei angen arnaf i fyfyrio arnaf fy hun. Ar ôl cymryd peth amser i ffwrdd, penderfynais adeiladu'r dewrder a mynd yn ôl i’r gwaith a hwn oedd y penderfyniad gorau a wnes i erioed. Roeddwn yn benderfynol o beidio â gadael i'm iselder a hunan-barch isel fy nal yn ôl."
Os ydych chi'n poeni am eich iechyd meddwl, mae'n debygol eich bod yn iawn i bryderi.
Siarad amdano a dod o hyd i gefnogaeth yw'r peth dewraf wnewch chi fyth. #MaeSiaradYnHollBwysig