Ymgyrch Os Yw Hi’n Oce

Nod yr ymgyrch ‘Os yw hi’n oce…’ yw mynd i’r afael â’r effaith negyddol y mae cywilydd yn ei chael ar y rhai sy’n byw gyda salwch meddwl.

Beth yw’r ymgyrch ‘Os yw hi’n oce…’?

Mae cywilydd yn aml yn arwain unigolion i guddio eu hafiechyd meddwl, gan rwystro eu mynediad at gefnogaeth angenrheidiol ac achosi teimladau o unigedd. I fynd i’r afael â hyn, mae’r gynghrair gwrth-stigma wedi lansio’r ymgyrch ‘Os yw hi’n coe…’ ledled y DU a Gweriniaeth Iwerddon, gan gynnwys yr Alban, Cymru, Gogledd a De Iwerddon, a Lloegr.

Er gwaethaf poblogrwydd yr ymadrodd “Mae’n oce i beidio bod yn oce” o fewn cymorth iechyd meddwl, mae’n anodd dwyn perswâd a lawer o unigolion â salwch meddwl.

Datgelodd ymchwil a gynhaliwyd ledled y wlad fod: 

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Mae pobl ledled Cymru (57%) yn dweud eu bod yn dal i deimlo cywilydd am fyw gyda salwch meddwl, waeth beth fo'r cynnydd dros y blynyddoedd i chwalu'r stigma sy'n ymwneud ag iechyd meddwl.

Mae 62% o bobl Cymru yn credu bod llawer iawn/gweddol o gywilydd yn gysylltiedig â Sgitsoffrenia.

Mae 9% o oedolion Cymru yn credu y dylai unigolion sy’n byw gyda salwch meddwl fod â chywilydd o’r cyflyrau hynny.

Gall y rhai sy'n mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl cymhleth, hirdymor wynebu cael eu barnu, eu diswyddo a phrofi unigedd a gwahaniaethu wrth geisio rhannu eu profiadau. Yn lle teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, maen nhw'n cael eu llethu gan gywilydd.

Trwy'r ymgyrch hon, ein nod yw cynyddu cynrechiolaeth gan y rhai sy'n teimlo na allant drafod eu brwydrau yn agored oherwydd stigma a chywilydd parhaus. Mae tystebau gan bobl ledled y DU yn cael eu harddangos ar bosteri mewn dros 150 o leoliadau ledled y wlad ac ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae wrth ddatgymalu’r stigma hwn. Os yw’n dderbyniol cydnabod anawsterau iechyd meddwl, pam mae agweddau gwahaniaethol yn parhau? Mae’n bryd i bob un ohonom gyfrannu at newid.

DSZ_1218resize.png

Beth yw ‘cywilydd’?

O ran problemau ac anhwylderau iechyd meddwl, mae cywilydd yn cynnwys teimladau o euogrwydd, embaras a gofid.

Mae dau fath gwahanol o gywilydd: mewnol ac allanol. Mae cywilydd mewnol yn ymwneud â syniadau’r unigolion o'u hymddygiad neu eu nodweddion eu hunain, yn enwedig o ran eu salwch meddwl. Mae cywilydd allanol yn codi pan fydd unigolion yn ofni ymateb negyddol os yw eu salwch yn dod yn wybodaeth gyhoeddus.

Mae cywilydd yn gysylltiedig â hunan-stigma ac fe'i disgrifir yn aml fel canlyniad emosiynol y stigma sy'n ymwneud â salwch meddwl. Mae’n arwain unigolion i ddisgwyl profi stigma, gan eu hannog i dynnu’n ôl o sefyllfaoedd lle gallent deimlo’n ddiwerth neu’n annheilwng.

Yn y pen draw, mae cywilydd yn rwystr sylweddol wrth geisio am gymorth am iechyd meddwl.

Os ydych chi'n meddwl bod rhywun rydych chi'n ei adnabod yn teimlo cywilydd...

  • Dechreuwch sgwrs gyda rhywun os ydych chi'n poeni am eu lles. Gall fod yn hynod heriol i unigolion sy’n profi cywilydd i fod yn agored, felly beth am gymryd yr awenau i’w gwneud yn haws? Dewch o hyd i awgrymiadau defnyddiol yma.

Os ydych chi'n teimlo cywilydd...

  • Rhannwch eich stori am oresgyn cywilydd i helpu eraill i deimlo'n llai unig. Dechreuwch sgwrs, gwrandewch yn empathetig, ac os yw'n briodol, cynigiwch eich profiad eich hun o fuddugoliaethu dros gyfnod anodd. Gall eich bod yn agored effeithio'n sylweddol ar eraill trwy feithrin dealltwriaeth a chefnogaeth.
  • Blaenoriaethwch hunan-ofal trwy neilltuo amser ar gyfer gweithgareddau sy'n dod â heddwch a chysur i chi, boed yn dreulio amser gydag anwyliaid, mynd am dro, mwynhau bath ymlaciol, sesiwn dylino, neu unrhyw weithgaredd arall sy'n eich adfywio. Cofiwch, rydych chi'n haeddu'r amser hwn i chi'ch hun.
  • Cael help ar gyfer eich iechyd meddwl. Ewch i'n hadran Angen Help i gael cymorth brys.

Helpwch i hyrwyddo’r ymgyrch a mynd i’r afael â chywilydd i bawb…

  • Dangoswch eich cefnogaeth trwy rannu asedau 'Os yw'n iawn...' ar gyfryngau cymdeithasol. Lawrlwythwch nhw isod a defnyddiwch #OsYwHinOce a dilynwch ni ar X (Twitter gynt), Facebook ac Instagram.
  • Talu sylw i'r iaith a ddefnyddir gan eraill a sut mae salwch meddwl yn cael ei ddarlunio yn ein hamgylchedd. Gadewch i ni eiriol dros newid a chodi llais.
  • Tynnwch lun o un o'n hysbysebion a rhannwch sut y byddwch yn brwydro yn erbyn cywilydd. Edrychwch ar ein map o leoliadau er mwyn cyfeirio ato.
  • Rhannwch eich strategaethau ar gyfer atal eraill rhag profi cywilydd.
  • Rhannwch sut rydych chi'n ymarfer hunan-dosturi ac anogwch eraill i wneud yr un peth.
  • Gwrandewch ar ein pennod ar fynd i'r afael â chywilydd ar ein Podlediad Lle i Siarad yma.

Straeon Personol

DSZ_1254.jpg

Izzy, Sir Benfro

"Am 13 mlynedd ers i mi gael diagnosis o faterion iechyd meddwl am y tro cyntaf yn 14 oed, fe wnes i ei guddio rhag cywilydd ac ofn... Wedi'i arwain yn bennaf gan gamliwio yn y cyfryngau ac ymwybyddiaeth isel iawn er i mi 'ddod yn lân' o'r diwedd yn weddol gyhoeddus ac agored am fy mrwydrau a’m hymdrechion i gyflawni hunanladdiad yn 2016 a newidiodd gyfeiriad fy mywyd yn llwyr – roedd cael cyfleoedd i ddefnyddio fy mhrofiadau i helpu a chodi ymwybyddiaeth i eraill yn fy llenwi â chymaint o bwrpas. Ers hynny rwyf wedi cyflawni llawer o rolau fel gwrandäwr, eiriolwr, mentor, system gyfeirio a chymorth ar gyfer cymaint o ffrindiau, dieithriaid ac fel gwirfoddolwr i sawl sefydliad ond eto bron bob wythnos rwy'n cael trafferth gyda chywilydd.

Rydyn ni'n gweithio mor ddiflino yn y frwydr hon yn erbyn stigma a gwahaniaethu o fewn iechyd meddwl, ac eto mae'r stigma gwaethaf rydw i wedi'i wynebu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod tuag at fy hun.

Rwy'n rhy galed arnaf fy hun ac yn barnu fy hun yn rhy llym mewn ffyrdd na fyddwn byth yn breuddwydio dychmygu meddwl am eraill.

Felly nawr bod ymwybyddiaeth wedi bod yn codi ar gyflymder trawiadol ers bron i ddeng mlynedd ac mae pethau fel diwrnod ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn achosi mewnlifiad o straeon yn cael eu rhannu ymhell ac agos ar draws y cyfryngau cymdeithasol, pryd fyddwn ni'n dechrau dangos i'n hunain y ddealltwriaeth rydyn ni bob amser yn ei rhoi i eraill?

O'r holl ffyrdd yr wyf wedi bod yn ddigon ffodus i brofi pwrpas trwy fod yr hyn yr oeddwn ei angen pan oeddwn yn iau, mae bod yn fwy caredig i mi fy hun yn dal i fod yn un agwedd nad wyf eto i'w meistroli."

DSZ_1286.jpg

Natalie, Caerdydd

“Does dim fath beth ag iselder, mae angen i bobl jyst fwrw ymlaen â phethau!”

 “Ti yw’r person olaf y byddwn i’n disgwyl dioddef salwch meddwl” oedd sylwadau a wnaed i mi ac arweiniodd at deimladau o gywilydd pan oeddwn yn cael trafferthion mawr gyda fy iechyd meddwl.

Yn ogystal â stigma pobl eraill, fy meirniad mewnol fy hun oedd fy ngelyn gwaethaf “gall pawb arall ei wneud! Beth sy'n bod arnat ti? Rheola dy hun … ac ati ac ati”.

Pan gyrhaeddais uchafbwynt gorweithio fe wnes i droi at y gweithwyr proffesiynol (fy Meddyg Teulu) am gymorth ond roeddwn i'n dal i deimlo'n ddryslyd ar ôl cael SSRIs ar bresgripsiwn ond heb esboniad o'r hyn oedd yn digwydd i mi na pham!

Ychydig eiriau caredig gan nyrs a gymerodd ECG a ddarparodd eiliad o sylweddoli

 “Dyma ffordd eich corff o ddweud wrthych am arafu cariad a gofalu amdanoch eich hun”.

I ofalu am eich iechyd meddwl…

  • Sylwch ar eich meddyliau - pe bawn i'n gwybod nad ydw i'n feddyliau ac nad oes rhaid i mi gredu popeth sy'n dod i'm pen efallai na fyddwn i wedi mynd mor sâl.
  • Byddwch yn hunan ymwybodol o newidiadau corfforol ac emosiynol - peidiwch ag anwybyddu unrhyw arwyddion. Rwyf wedi dysgu adnabod meddyliau rasio neu arwyddion corfforol (ee: cwsg gwael, diffyg archwaeth) fel arwydd i stopio a gorffwys neu wneud newid.
  • Siaradwch - gyda'ch teulu, eich ffrindiau neu unrhyw un rydych chi'n ymddiried ynddo! Mae siarad ag eraill yn onest am fy iechyd meddwl wedi cryfhau fy mherthynas ac yn gwneud i mi deimlo'n llai unig - problem a rennir mewn gwirionedd yw problem wedi'i haneru.

Darllenwch mwy o straeon yma

 

Asedau Cymdeithasol