Dechrau arni gyda'n cynllun pum cam
- Cael cymorth yn eich sefydliad
- Gweld beth arall sy'n digwydd yn lleol
- Cynllunio eich gweithgarwch
- Dechrau arni
- Gwerthuso eich gweithgarwch
Cam 1 - Cael cymorth yn eich sefydliad
Mae sicrhau bod eich uwch reolwyr yn cefnogi eich gweithgarwch Amser i Newid Cymru yn lle gwych i ddechrau. Mae hefyd yn anfon neges gref i staff ar draws y sefydliad bod y rheolwyr yn ymrwymedig i leihau'r stigma a'r gwahaniaethu yn y gweithle a'r boblogaeth ehangach.
Bydd cefnogaeth gan gyflogeion eraill yn rhoi hwb i'ch gweithgareddau a dod ag Amser i Newid Cymru yn fyw yn eich sefydliad. Gwyddom fod siarad am iechyd meddwl yn un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael â gwahaniaethu, felly mae eich gweithle eich hun yn lle gwych i ddechrau arni.
Cam 2 - Gweld beth arall sy'n digwydd yn lleol
Mae gweithgareddau'n mynd rhagddynt ledled Cymru. Mae ymuno â sefydliadau eraill a digwyddiadau lleol sydd eisoes wedi'u trefnu yn golygu y gallwch rannu syniadau, adnoddau a rhwydweithiau a chynnwys hyd yn oed mwy o bobl.
Byddwch yn ymwybodol na fydd pobl am fod yn bresennol mewn digwyddiad a gaiff ei frandio fel 'digwyddiad iechyd meddwl'. Felly ceisiwch hyrwyddo neges Amser i Newid Cymru mewn gwahanol fathau o ddigwyddiadau, fel gwyliau a ffeiriau lleol, lle gallwch gael cyfle i gyrraedd pobl na fyddai o reidrwydd wedi dod i ddigwyddiad iechyd meddwl.
Gweld beth sy'n digwydd yn eich ardal.
Cam 3 - Cynllunio eich gweithgarwch - pwy ydych chi'n ceisio ei gyrraedd a beth ydych chi am ei gyflawni?
Cyn penderfynu ar y math o weithgarwch y byddwch yn ei wneud, gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi eich hun:
- Ydych chi'n ceisio cyrraedd staff?
- Ydych chi am ymgysylltu â'r gymuned leol?
- Beth yw eich amcanion byrdymor a hirdymor?
- Beth yw eich cyllideb?
Meddyliwch am:
- Beth all eich cynulleidfa darged fod yn ei wybod eisoes am iechyd meddwl;
- Beth yw eu canfyddiadau presennol o bosibl;
- Ble mae eich cynulleidfa a beth yw'r ffordd orau o'u cyrraedd.
Peidiwch ag anghofio cynnwys pobl sydd â phrofiad personol o iechyd meddwl yn eich gweithgarwch - mae dod â phobl sydd â phrofiad personol ac sydd heb brofiad personol at ei gilydd yn ffordd wych o leihau stigma a gwahaniaethu. Dysgwch sut y gallwch greu cyfleoedd i bobl gymdeithasu yn eich digwyddiadau.
Cam 4 - Dechrau arni
I ddechrau, beth am gael ysbrydoliaeth drwy ddod o hyd i'r hyn y mae sefydliadau wedi'i wneud.
Yna: Penderfynwch ar eich gweithgarwch
- Cofrestrwch eich digwyddiad gyda ni
- Archebwch adnoddau Amser i Newid Cymru
- Darllenwch ein hawgrymiadau defnyddiol ar gyfer cynnal digwyddiad Amser i Newid Cymru llwyddiannus!
- Hyrwyddwch eich digwyddiad yn y cyfryngau.
Cam 5 - Gwerthuso eich gweithgarwch
Mae gwerthuso eich gweithgarwch yn eich galluogi i ddangos effaith eich gweithgarwch i bawb sy'n cymryd rhan yn y prosiect - ac i ddarpar noddwyr gweithgareddau eraill.
Mae hefyd yn eich galluogi i ddysgu o'r hyn a weithiodd ac, yn bwysicach, yr hyn na weithiodd ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol.
I gynnal gwerthusiad effeithiol, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o ddeilliannau dymunol eich prosiect ac mae llawer o ffyrdd o fesur eich llwyddiant.
Rhannwch eich gwerthusiad gyda ni - bydd yn ein helpu i gasglu tystiolaeth am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio o ran lleihau stigma a rhoi diwedd ar wahaniaethu.